Partit dels Socialistes de Catalunya

Partit dels Socialistes de Catalunya
SbaenegPartido de los Socialistas de Cataluña
CymraegPlaid Sosialaidd Catalwnia
LlywyddÁngel Ros
Ysgrifennydd cyffredinolMiquel Iceta
Sefydlwyd16 Gorffennaf 1978 (1978-07-16)
Unwyd gydaPlaid Sosialaidd Catalwnia (Cyngres) • Plaid Sosialaidd Catalwnia (Atgynulliad) • Ffederasiwn Catalan y PSOE
Pencadlysc/ Nicaragua, 75–77
08029 Barcelona
PapurEndavant Digital
Asgell yr ifancIeuenctid Sosialaidd Catalwnia
Rhestr o idiolegauDemocratiaeth Sosialaidd
Sbectrwm gwleidyddolCanol-chwith
Plaid yn y DUPartido Socialista Obrero Español Plaid Sosialaidd Gweithwyr Sbaen

Plaid gyda'i hegwyddorion yn ddwfn mewn democratiaeth sosialaidd yw Partit dels Socialistes de Catalunya (Sbaeneg: Partido de los Socialistas de Cataluña, Cymraeg: Plaid Sosialaidd Catalwnia acronym swyddogol: PSC-PSOE ). Mae'n ganlyniad i uno tair plaid yn 1978: Partit Socialista de Catalunya-Reagrupament PSC–R, y Partit Socialista de Catalunya–Congrés, PSC–C a'r Federació Catalana del PSOE, FSC, sef y fersiwn Catalonaidd o Blaid Sosialaidd Gweithwyr Sbaen a'i gangen Val d'Aran ("Dyffryn Aran").

Mae llawer o bolisiau'r 'PSC-PSOE' yn cyd-fynd gydag annibyniaeth i Gatalwnia ar ffurf ffederal a chyda polisiau cenedlaetholgar. Yr ardaloedd cryfaf o ran aelodaeth yw ardaloedd dinesig Tarragonès, Montsià, a Val d'Aran. Yn Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2017 cipiodd y blaid 16 sedd: 605,844 o bleidleisiau (12.7%).

O 1979 ymlaen roedd yn un o bleidiau cryfaf Catalwnia yn yr etholiadau sirol, rhanbarthol, Ewropeaidd a Chyffredinol, ond yn llai llwyddiannus yn Etholiadau Senedd Catalwnia.

Yn 1999 roedd ganddi 52 o seddi ond collwyd llawer yn y blyndyddoedd dilynol, a chafwyd cryn anghytundeb ynghylch faint o annibyniaeth y dylent ymgyrchu drosto gyda rhai yn mynnu creu Llywodraeth Ffederal ac eraill yn credu mewn annibyniaeth lwyr.

Coch: yr ardaloedd ble roedd y 'PSC-PSOE' gryfaf yn 2010; glas = ardaloedd lleiaf eu cefnogaeth.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne